Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-18-12 papur 1

 

Ymchwiliad i Ofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn Tystiolaeth Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cyd-destun

1. Mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd cyhoeddus Cymru, gan gefnogi 150,000 o ddinasyddion bob blwyddyn er mwyn iddynt gyflawni eu potensial ac er mwyn eu cadw’n ddiogel. Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu drwy gyfrwng partneriaeth rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau tai, iechyd ac addysg. Bu hanes calonogol i’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Gwelwyd ystod y gwasanaethau a natur y ddarpariaeth yn addasu yn unol ag anghenion newidiol y bobl sy’n cael eu cefnogi. Er hynny, mae ein cymdeithas yn parhau i newid ac mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol newid hefyd er mwyn ymateb. Cafwyd newid yn nisgwyliadau’r cyhoedd a bydd yr hyn y maent yn ei ddisgwyl gan y gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i newid. Bydd pobl yn awyddus i allu byw yn annibynnol yn y gymuned cyhyd ag y bo modd, er y bydd yr angen yn parhau, wrth gwrs, i ddarparu gofal preswyl ar gyfer rhai unigolion. Yr awdurdodau lleol a’r GIG sy’n gyfrifol am gomisiynu gofal preswyl addas, sydd o ansawdd da, er mwyn diwallu’r angen hwnnw. Ein swyddogaeth ni, Llywodraeth Cymru, yw darparu’r cyfeiriad strategol a fframwaith y gall gofal preswyl ffynnu o’i fewn, gan ymateb i’r her.

 

Y Sector

2. Ym mis Mawrth 2012 roedd 694 o gartrefi gofal yng Nghymru a oedd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i ddarparu llety a gofal i bobl 65 oed a hŷn. Rhyngddynt roedd y cartrefi hyn yn darparu 23,234 o lefydd, 11,577 ohonynt wedi’u cofrestru i ddarparu gofal personol yn unig (sef cymorth gyda thasgau bywyd beunyddiol fel ymolchi, gwisgo a mynd i’r toiled) a 11,657 o lefydd wedi’u cofrestru i ddarparu gofal nyrsio.    

 

3. Mae tua 86% o’r ddarpariaeth yn y sector yn nwylo darparwyr preifat ac annibynnol a thua 14% yn cael ei ddarparu gan yr awdurdodau lleol. Cynyddodd cyfran y ddarpariaeth breifat ac annibynnol i’r lefel uchel hon o dipyn i beth yn dilyn diwygiadau gofal yn y gymuned yn y 1990au. Mae’r cartrefi yn amrywio mewn maint o leoliadau bach i leoliadau mawr amlbwrpas, sydd yn fwy cyffredin, gyda rhai yn cynnig llety i dros 100 o breswylwyr mewn unedau bychain.

 

Demograffeg

4. Yn 2010 roedd nifer y bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru yn 558,000 ond yn ôl y rhagamcanion bydd y nifer yn cynyddu o tua 306,000 (55 y cant) erbyn 2035. Mae’r cynnydd sylweddol hwn o ganlyniad i ddisgwyliad oes cynyddol ymhlith y boblogaeth, o ganlyniad i well gofal iechyd a hirhoedledd. Bydd y ddau beth hyn yn parhau i arwain at dwf yn nifer y bobl yng Nghymru sydd dros 85 oed, y disgwylir i’w nifer fwy na dyblu eto erbyn 2033, nes bod yn 5 y cant o’r holl boblogaeth, h.y. 160,000 yng Nghymru. Mae rhagamcanion yr Ystadegau Gwladol yn awgrymu y bydd deuddeg gwaith cynifer o bobl dros gant oed yn y 30 mlynedd nesaf.

 

5. Er y bydd llawer o’r bobl hŷn dan sylw yn byw bywydau hir, iach ac annibynnol, bydd llawer hefyd yn datblygu angen am ofal cymdeithasol yn nes ymlaen yn eu bywydau. Y duedd o ran darpariaeth gofal preswyl yn y blynyddoedd diwethaf fu i unigolion fynd i ofal yn ddiweddarach yn eu bywydau pan fo ganddynt anghenion gofal mwy cymhleth. Pan fydd anghenion pobl hŷn yn cynyddu ac yn mynd yn fwy cymhleth ac anodd eu rhagweld, gall gofal preswyl (gyda gofal nyrsio, yn aml) fod yn opsiwn mwy addas a diogel. Felly bydd darparu gofal preswyl o ansawdd da sydd yn diwallu anghenion gofal cynyddol, yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’r gwasanaethau cymdeithasol a ddarparwn. Mae gofal preswyl yn parhau i fod yn allweddol er mwyn sicrhau bod anghenion gofal y bobl fwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu diwallu mewn modd diogel ac ymatebol.

 

6.    O safbwynt anghenion pobl hŷn yn gyffredinol, mabwysiadwyd Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cam 1 o’n Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, sef annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas, ac fe gododd hwn broffil materion a phryderon pobl hŷn. Mae’r cam hwn o’r strategaeth yn hybu heneiddio’n iach, gan osgoi’r ddelwedd negyddol sy’n aml yn gysylltiedig â heneiddio. Ar y pryd, hon oedd yr unig strategaeth o’i math yn y DU. Mae cam 2 o’r strategaeth yn datblygu’r hyn a gyflawnwyd yn y cam cyntaf, ac yn canolbwyntio ar statws economaidd, lles cyffredinol ac annibyniaeth. Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n ymrwymo i gynnal adolygiad o’r strategaeth ac i roi cynigion ar waith ar gyfer cam 3. Gellir gweld copi yn:

 

http://wales.gov.uk/?skip=1&lang=cy

 

Mynd i’r Afael â Her Gofal Preswyl

7. I ymateb i’n disgwyliadau newidiol fel cymdeithas a’r her o gyflawni’r hyn a ddisgwylir, bydd angen i ddarpariaeth gofal preswyl drwyddi draw arallgyfeirio ac esblygu. Bydd angen i’r gofal preswyl a ddarperir yn y dyfodol adlewyrchu ein disgwyliadau o ran dyluniad ffisegol a chyfleusterau, gan ganolbwyntio hefyd ar fodelau newydd a mwy arloesol ar gyfer gofal a chefnogaeth. Bydd angen inni hefyd hyrwyddo dull mwy amlddisgyblaethol, amlbroffesiynol ar gyfer datblygu a chyflenwi gofal mewn ystod o leoliadau preswyl a fydd yn gallu ymateb i’r galw yn y dyfodol.

 

8. Rydym eisoes yn ymateb i’r tueddiadau sy’n eu hamlygu eu hunain trwy ddilyn sawl trywydd wrth lunio’r ddarpariaeth ym maes gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Mae hyn yn cael ei wneud trwy gyfrwng gwaith ataliol (i sicrhau bod pobl yn byw’n annibynnol  yn y gymuned mor hir ag sy’n bosibl), gwell comisiynu (i roi mwy o sefydlogrwydd i’r sector), arallgyfeirio yn y ddarpariaeth (i leihau’r risgiau sy’n siŵr o fodoli pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu gan gyrff nad ydynt yn y sector cyhoeddus) a gwell rheoleiddio (i sicrhau gwasanaethau diogel sydd o ansawdd da). Mae ein Papur Gwyn, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn egluro ein gweledigaeth gyfan a’r camau ymarferol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gyda chymorth Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd yn yr arfaeth. Mae’r Papur Gwyn i’w weld yn:

 

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/guidance1/services/ ?skip=1&lang=cy

 

Gan hynny, mae’r camau rydym yn eu cymryd yn awr, a’r hyn yr arfaethir ei wneud, i roi pethau ar waith yn cynnwys:  

 

Gwaith Ataliol

9. Rydym eisoes wedi buddsoddi mewn gwaith penodol i ddatblygu gwasanaethau ail-alluogi a gwasanaethau ataliol eraill ledled Cymru, trwy nawdd sy’n cael ei ddarparu yn gysylltiedig â gofal iechyd parhaus y GIG. Mae cyfanswm o £37.5 miliwn yn cael ei ddarparu i gefnogi ystod o brosiectau lleol sy’n ceisio, ymhlith pethau eraill, lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl a hybu gallu pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Law yn llaw â’r gwaith hwn, rydym wedi buddsoddi dros £9 miliwn drwy’r Grant Cyfalaf Teleofal er mwyn gwella gwasanaethau teleofal ledled Cymru. Mae bron i 20,000 o bobl yn awr yn byw yn fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn sgil y gwasanaethau hynny. Rydym hefyd wedi buddsoddi £12.5 miliwn er mwyn gwella seilwaith y gwasanaethau sy’n cynnig offer yn y gymuned. Mae 11 partneriaeth ffurfiol ar waith bellach lle mae’r cyllidebau’n cael eu rhannu rhwng y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at fuddsoddiad yr awdurdodau lleol a’r GIG yn lleol.

 

10. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn rhoi lle canolog i ail-alluogi a byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau ail-alluogi gael eu darparu drwy Gymru benbaladr, sef gwasanaethau a fydd yn cael eu cynllunio a’u comisiynu yn rhanbarthol. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol a’r GIG yn rhannu’r gwaith o arwain yn y maes. Bydd yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion da lle mae gwasanaethau integredig yn cael eu cynnig, i bobl fyw gyda chymorth. Bydd yr Asiantaeth hefyd yn sicrhau bod yr arferion da hyn yn cael eu rhannu â phawb yng Nghymru trwy gyfrwng eu rhwydweithiau dysgu a gwella.

 

11. Trwy gyfrwng Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) bwriadwn hefyd roi pwerau i Weinidogion lunio rheoliadau neu roi canllawiau, i’w gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol brofi sut y maent yn cyflawni eu dyletswyddau i ofalu am les pobl mewn angen drwy roi ar waith strategaethau ar gyfer atal ac ymyrraeth gynnar. Ar yr un pryd byddant yn cael pwerau i atgyfnerthu gwaith partneriaeth gan gynnwys rhannu cyllidebau a ffyrdd eraill hyblyg o weithio lle raid cael partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a’r GIG a chydrhwng yr awdurdodau.

 

12. Rydym yn ymwybodol o’r angen i ymateb mewn modd mwy cydgysylltiedig ac mewn modd gwell i anghenion y rhai hynny â dementia. Mae Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia (2011) yn nodi’r ymrwymiadau sydd eu hangen i barhau i ddatblygu gwasanaethau o ansawdd uchel, gan roi sylw ar gydweithio ar draws y sectorau a rhwng pob un o’r asiantaethau allweddol. Mae gwneud hynny’n  golygu sicrhau diagnosis cynnar ac ymyrraeth amserol; gwybodaeth, cymorth ac eiriolaeth i bobl sydd â’r cyflwr, a’u gofalwyr, ynghyd â gwell hyfforddiant ac ymchwil. I helpu wrth godi ymwybyddiaeth o’r hyfforddiant a’r cymorth, mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru wedi derbyn cyllid i wella sgiliau a gwybodaeth staff mewn cartrefi gofal, a’r staff hynny sy’n gweithio yn y gymuned, mewn ysbytai ac mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

 

Comisiynu

13. Er mwyn gwella’r modd y mae gofal preswyl yn cael ei gomisiynu, rydym wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ar gyfer yr awdurdodau lleol sef Fframwaith Comisiynu – Canllawiau ac Arferion Da, ynghylch comisiynu gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys gweithdrefnau caffael a chontractio. Maent wedi’u gosod allan mewn dwy ran. Rhan 1 yw’r canllawiau statudol o dan adran 7, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 ac mae’n nodi 13 o safonau comisiynu y disgwylir i awdurdodau lleol eu cyflawni. Mae’r safonau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau comisiynu yn seiliedig ar dystiolaeth a’u rhoi ar waith drwy gyfrwng caffael effeithiol, gan osod y meincnod ar gyfer mesur comisiynu. Mae hefyd yn nodi cyfrifoldebau timau comisiynu gofal cymdeithasol ar gyfer cynhyrchu cyd-gynlluniau comisiynu sy’n llywio gwasanaethau dros gyfnod o dair blynedd i bum mlynedd. Bydd ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau o’r fath yn dibynnu’n helaeth ar i ba raddau y maent yn tynnu ynghyd safbwyntiau a chymorth rhanddeiliaid, gan gynnwys y sectorau preifat ac annibynnol. O ganlyniad, mae’r canllawiau’n pwysleisio bod angen i gomisiynwyr ennyn diddordeb y sectorau hyn, er mwyn sicrhau y caiff amrywiaeth o wasanaethau eu darparu. Mae Rhan 2 yn rhoi arferion da mewn comisiynu a chaffael. Mae’r canllawiau i’w cael yn: 

 

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/circular/commissioningguidance/ ?skip=1&lang=cy

 

14. Yn ychwanegol at y canllawiau hyn ceir Canllaw Cynllunio Caffael, a ddatblygwyd gan Gwerth Cymru. Yn hwn mae canllawiau i’w dilyn gam wrth gam ar-lein, yn arbennig ar gyfer contractio gwasanaethau ym maes gofal cymdeithasol a thai. Yn gymorth pellach i ddilyn y canllawiau y mae cronfa ddata o’r enw ‘Daffodil’, sef trefn ragamcanu anghenion gofal a gynlluniwyd i helpu i fodelu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol trwy ddadansoddi’r niferoedd sydd â gwahanol gyflyrau iechyd ac sydd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol penodol, gan eu rhagamcanu ar draws newidiadau yn y boblogaeth dros nifer o flynyddoedd yn ardal pob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol.

 

15. Rydym wedi cymryd camau i ddwyn ynghyd y rhai a lofnododd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a sefydlwyd gan lywodraeth leol gyda’r sector annibynnol a phreifat, er mwyn ei adnewyddu. Mae rhai darparwyr wedi ceisio datrys y mater trwy’r llysoedd pan fu anghydfod rhyngddynt a’u comisiynwyr, yn lle ei ddatrys mewn partneriaeth â llywodraeth leol a’r GIG. Gan fod gwasanaethau cyhoeddus o dan y fath bwysau, ni allwn fforddio gweld hyn yn parhau. Cafodd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ei ddatblygu er mwyn sefydlu trefniadau adeiladol ac effeithiol ar gyfer cydweithio rhwng llywodraeth leol a’r sector gofal, yn enwedig ar gyfer darparu gofal preswyl ac fe fyddwn, trwy gyfrwng y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol, yn pwyso i weld cynnydd yn hyn o beth.

 

16. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar weithdrefnau i’w dilyn pan fydd cleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, er mwyn atgoffa gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol na ddylid rhagdybio mai mynd yn syth i gartref preswyl fydd y dewis cyntaf bob tro, ond os mai dyna sydd yn briodol fe ddylai’r cleifion gael dewis i ba gartref i fynd. Mae hyn yn cefnogi ac yn atgyfnerthu ein cyfarwyddiadau a’n canllawiau statudol ar Ddewis Llety, sydd yn sicrhau bod unigolion yn cael gwneud dewisiadau cadarnhaol ar sail gwybodaeth fel rhan o’r broses pan fyddant yn cael eu rhoi mewn gofal preswyl. Mae’r canllawiau yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol a’r GIG yn rheoli dewis yn weithredol ac yn deg, gan ofalu nad oes oedi dianghenraid cyn i bobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Mae’r canllawiau i’w cael yn:

 

http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/letters/2011/letter/?skip=1&lang=cy

 

Arallgyfeirio

17. Rydym hefyd wedi ceisio hyrwyddo a hybu mathau eraill o lety a gofal er mwyn diwallu anghenion pobl hŷn heb iddynt orfod mynd i leoliad preswyl. Er enghraifft, mae tai gofal ychwanegol yn galluogi pobl hŷn i barhau i fod mor annibynnol ag y bo’r modd ond gyda thawelwch meddwl o wybod bod cymorth ar gael gerllaw os bydd angen. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Dai yng Nghymru yn nodi ein hamcanion allweddol ar gyfer gofynion pobl hŷn ym maes tai, gan gymryd i ystyriaeth anghenion amrywiol unigolion.

 

18. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf cwblhawyd 24 o gynlluniau tai gofal ychwanegol gan ddarparu dros 1,124 o gartrefi lle gall pobl hŷn gadw eu hannibyniaeth ond gyda pheth cymorth. Mae 12 o gynlluniau pellach wrthi’n cael eu hadeiladu neu bron wedi mynd trwy’r camau cynllunio, gan roi rhaglen gyfan o fwy na 1,600 o gartrefi yng Nghymru. Ariannwyd y cynlluniau hyn drwy’r Grant Tai Cymdeithasol sydd yn cynnwys dyraniad arian penodol ar gyfer cynlluniau gofal ychwanegol. Yn 2011-12, pennwyd cyllideb o £10 miliwn ar gyfer gofal ychwanegol a bydd y gyllideb hon yn cynyddu i £12 miliwn yn 2012-13. Yn y tymor hwy, bydd cynlluniau tai gofal ychwanegol yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o ddyraniad y Grant Tai Cymdeithasol. 

 

19. Rydym wedi ymrwymo hefyd i edrych i mewn i’r rhan y gall modelau gofal eraill ei chwarae, fel mentrau cymdeithasol, cydfuddiannau a chynlluniau cydweithredol. Rydym yn cynnal adolygiad mewnol o’r modd y gellir defnyddio mentrau cymdeithasol i gyflwyno gwasanaethau cymdeithasol, gan ystyried a yw’n fodel busnes hyfyw ar gyfer Cymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried y cyfleoedd a’r rhwystrau a bydd yn canolbwyntio ar yr arferion gorau ledled y DU, Ewrop a gwledydd eraill. Fel rhan o’r gwaith o godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu wrth ystyried mentrau cymdeithasol, rydym wedi cwrdd â Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i glywed eu barn ar rôl mentrau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Drwy drafod fel hyn sylweddolwyd bod llawer o botensial ar gyfer mentrau cymdeithasol wrth fynd ati i drawsnewid gwasanaethau a’r modd y bydd hynny’n effeithio ar unigolion ac ar ddulliau cyflwyno gwasanaethau. Rydym wrthi’n datblygu ein cynllun gweithredu ar fentrau cymdeithasol, a fydd yn rhan o’n cynigion pan gynhelir trafodaethau pellach yn ddiweddarach eleni.

 

Rheoleiddio

20. Byddwch wedi clywed gan AGGCC am y cynlluniau i foderneiddio’r modd y mae’n rheoleiddio gofal cymdeithasol. Fel rhan o’n hymgynghori ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), rydym wedi nodi ein bwriad i ganolbwyntio’n well ar reoleiddio lleoliadau gofal a defnyddio deddfwriaeth er mwyn cyflwyno rheoliadau newydd, gan ddiwygio’r model rheoleiddio a rhoi mwy o bwyslais ar lywodraethiant sefydliadol a systemau sicrhau ansawdd. Bwriad hynny yw sicrhau bod darparwyr eu hunain yn gweithio o fewn fframwaith cyffredinol o welliant parhaus a bod gwybodaeth yn dryloyw ac ar gael i’r cyhoedd. Bydd hyn yn gymorth i roi mwy o reolaeth i bobl dros y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, gan gynnwys pethau ymarferol iawn ynghylch sicrhau bod darparwyr yn dweud yn glir beth y maent yn ei ddarparu a hefyd drefniadau mwy ffurfiol fel y rhai a gynigir ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) ar gyfer y Gofrestr Gyhoeddus.

 

21. Gwyddom fod gweithwyr gofal eu hunain yn chwarae rhan allweddol hefyd mewn unrhyw wasanaeth a ddarperir ac felly byddwn yn gwneud darpariaeth i reoleiddio’r modd y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu hyfforddi, mewn modd tebyg iawn i’r hyn sy’n digwydd eisoes ar gyfer rheoleiddio hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol. Bydd hyn yn gymorth i ddarparu safon fwy cyson yn yr hyfforddiant, a’i wneud yn fwy amlwg berthnasol i anghenion defnyddwyr gwasanaethau a chyflogwyr fel ei gilydd. Os bydd safonau uchel yn yr hyfforddiant, bydd hynny’n golygu y bydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn datblygu o ran proffesiynoldeb.

 

22. Gan gydnabod y swyddogaeth allweddol sydd gan reolwyr gwasanaethau, rydym eisoes wedi cyflwyno gofyniad statudol i bob rheolwr cartref gofal sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion feddu ar gymwysterau addas a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru er mwyn cyflawni’r swyddogaeth hon. At hynny, trwy Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, rydym wedi cynyddu’r gyfran o staff yn yr holl sector gofal cymdeithasol sydd â’r cymwysterau, y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud y gwaith. Mae’r fenter hon yn cael ei harwain gan yr awdurdodau lleol a’i threfnu gan gomisiynwyr gwasanaethau yn yr awdurdodau lleol. Mae cynlluniau i wario cyfanswm o £12 miliwn ar y Rhaglen Ddatblygu yn 2012-13, gyda’r elfen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru (sy’n darparu 70% o’r rhaglen) yn costio £8.4 miliwn, gyda chyfraniad o 30% gan yr awdurdodau lleol. Y bwriad yw y bydd hyn yn ychwanegol at yr adnoddau y mae cyflogwyr eu hunain yn eu rhoi i waith hyfforddi.

 

23. Rydym hefyd yn ymwybodol fod y digwyddiadau mewn perthynas â Southern Cross Healthcare wedi codi pryderon am addasrwydd darparwyr preifat i gynnig gwasanaethau cyhoeddus. Ochr yn ochr â’n cynigion ynghylch rheoleiddio at y dyfodol, byddwn hefyd yn gwneud newidiadau eraill i’r system reoleiddio drwy ein pwerau presennol, er mwyn cael ffyrdd mwy cadarn o asesu hyfywedd ariannol darparwyr cartrefi gofal. Drwy hyn byddwn yn sicrhau ein bod yn hyderus bod darparwyr sy’n ymuno â’r sector, neu sy’n gweithredu o fewn y sector, ar sail ariannol ddigon cadarn i wneud hyn. Rydym wrthi’n ystyried yr opsiynau ar gyfer gwneud hyn yn awr.

 

Casgliad

24. Mae natur gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn wedi newid dros y deng mlynedd diwethaf a bydd yn wahanol iawn yn y degawd nesaf. Mae anghenion a disgwyliadau pobl hŷn sydd angen gofal preswyl yn cynyddu a byddant yn cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd sydd i ddod. Yr her sy’n wynebu’r awdurdodau lleol, y GIG a’r darparwyr yw sut i ymateb i hyn drwy weithio mewn ffyrdd hyblyg, gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a gweithio fel partneriaid i fynd i’r afael â’r agenda. Fel Llywodraeth, rydym yn ceisio hwyluso hyn, drwy ddarparu’r fframwaith strategol a chyfreithiol fel y gall gwasanaethau dyfu gan alluogi mwy o bobl hŷn i fyw yn annibynnol yn y gymuned, naill ai gartref neu mewn mannau eraill heblaw gofal preswyl; darparu cyfeiriad ar gyfer comisiynu gwasanaethau sy’n cael eu rhoi gan lywodraeth leol a’r GIG; darparu gwasanaethau o ansawdd da a sefydlogrwydd ar gyfer darparwyr cartref gofal; hyrwyddo sector amrywiol a all ymateb i newid; a sicrhau bod y rheoleiddwyr yn meddu ar yr offer angenrheidiol i sicrhau bod gofal o ansawdd da yn cael ei ddarparu a’i gyflenwi gan weithlu sydd o ansawdd da.

 

 

Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mehefin 2012